Mae yna bryderon newydd am lifogydd yn nhalaith Queensland, Awstralia heddiw ar ôl bron i droedfedd (30cm) o law ddisgyn mewn ychydig oriau.

Dywedodd swyddogion bod disgwyl i tua 20 adeilad yn Maryborough, sy’n gartref i 22,000 o bobol, gael eu taro gan lifogydd ar ôl i afon dorri ei glannau.

“Bydd gan sawl busnes… ddŵr llifogydd yn eu lloriau isaf,” meddai’r Maer Mick Kruger.

Mae’r llifogydd newydd yn dangos nad oes gan y dalaith bron i ddim gallu i amsugno rhagor o law trwm ar ôl wythnosau o law trofannol trwm.

Mae’r llifogydd wedi gorchuddio ardal yr un maint a’r Almaen a Ffrainc â’i gilydd. Mae 10 person eisoes wedi marw a 200,000 wedi eu heffeithio ers dechrau’r llifogydd ym mis Tachwedd.

Sgil effaith arall y llifogydd yw bod diwydiant glo Queensland, sy’n allforio i sawl gwlad arall, wedi gorfod cau i lawr dros dro.

Hedfanodd y Prif Weinidog, Julia Gillard, sydd o’r Barri yn wreiddiol, i sawl tref yn y dalaith sy’n rhannol dan y dŵr heddiw (dde).

“Nes bod y llifogydd yn cilio fe fydd hi’n amhosib gwybod beth yw hyd a lled y difrod,” meddai wrth newyddiadurwyr yn nhref St George.

Mae disgwyl y bydd y difrod yn costio tua 3.2 biliwn i’w drwsio.