Blynyddoedd maith yn ôl dw i’n cofio cael fy ngyrru o Livingstone yn Zambia i gyfeiriad Botswana mewn fan. Roedd y golygfeydd yn odidog ond y prif beth ydw i’n cofio am y daith hwnnw oedd y tyllau yn y ffordd. Dw i ddim yn gor-ddweud – roedd y ffordd mor llawn o dyllau a darn o gaws Swistirol. Ond dyna ni, gwlad trydydd byd oedd hon.

Nid gwlad trydydd byd mo Cymru. Serch hynny, wrth yrru i mewn i’r gwaith heddiw sylwais bod safon y ffordd bron a bod yr un mor dameidiog. Cyfrais i dros ddeg o dyllau maint troed eliffant ar daith pymtheg milltir. Rydw i’n deall bod yna sawl ffordd yn yr un cyflwr, ond mae hi wedi bod yn wythnos a rhagor ers i drwch yr eira doddi erbyn hyn, ac mae’n hen bryd gwneud ryw fath o ymdrech i ddechrau eu llenwi nhw.

Cwestiwn arall yw, pam eu bod nhw yn y fath gyflwr yn y lle cyntaf? Mae’r tywydd wedi bod yn wael, ond mae’n rhaid bod modd cymryd gofal o ffyrdd er mwyn gwneud yn siwr nad ydyn nhw’n chwalu fel blawd yn y lle cyntaf? Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod, a gan gymryd nad addewid gwag ydi hi cyn yr etholiadau ym mis Mai, dylid ymchwilio i’r peth ar fyrder.

Roeddwn i wedi meddwl blogio am hyn beth bynnag, ond dw i newydd gael galwad ffôn gan fy mhartner yn dweud ei bod hi wedi cael pynjar ar ôl mynd dros dwll yn Llandysul, ac wedi gorfod cerdded adref yn cario ein merch fach 4 mis oed dan un cesail a’i siopa dan y llall. D’oh!

Rydw i’n deall safbwynt y cynghorau ar hyn – maen nhw’n gorfod gwneud mwy â llai fel mae hi. Ond onid oes angen newid agwedd yn gyffredinol tuag at y ffyrdd yng Nghymru – o’r top i’r gwaelod? Mae peidio gwario arian ar ffyrdd yn colli arian, yn hytrach nag arbed arian, yn y pen draw.

Petai y cyngor wedi gwario ar drwsio’r twll yn Llandysul ni fyddwn i’n gorfod talu am olwyn newydd o’r Almaen yn rywle yn hytrach na’i wario yn lleol. Yn yr un ffordd, petai yna rwydwaith ffyrdd o safon yng Nghymru byddai rhagor o fusnesau yn fodlon ymgartrefu yma i gymryd mantais ohonyn nhw.

Newid agwedd

Yn ogystal a cadw’r ffyrdd sydd â ni mewn cyflwr gwell na rhai Zambia, mae angen o leiaf un hewl dda o de i ogledd Cymru. Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad mae’n fater o falchder cenedlaethol fod gennym ni awyren sy’n gallu hedfan o Ynys Môn i Gaerdydd. Wel, onid oes bachlder cenedlaethol mewn gallu gyrru o dde i ogledd gwlad, gan ddisgwyl taith chwim a diffwdan, ar hyn ffyrdd o safon?

Dw i ddim yn gofyn am draffordd –  rydw i’n ar ddeall bod yr rheini yn costio tua £30m y milltir (ac felly ffordd o Gaerdydd i Landudno yn costio tua £5 biliwn). Ond rydw i’n siwr na fyddai cost ffordd ddeuol yn ormod iddyn nhw, hyd yn oed os oes rhaid rhoi arian wrth gefn am bum mlynedd i dalu amdano.

Ambell fryncyn yn y ffordd? Dim problem – ffrwydrwch nhw. Mae dynameit wedi bodoli ers 1867.

Dadl y gwleidyddion, wrth gwrs, yw bod pob cysylltiad o werth yn mynd o’r gorllewin i’r dwyrain yn hytrach nag o’r gogledd i’r de.  Mae hynny’n wir, ond mae yna reswm da am hynny – all busnesau ddim mynd o’r gogledd i’r de heb i’w loriau fynd yn styc ar bont Beddgelert.

A son am falchder cenedlaethol – mae yna rywbeth eithaf dadlennol am y ffaith bod pob un o’n prif ffyrdd ni yn mynd i rywle y tu allan i Gymru. Mae’r erthygl yma gan George Monbiot yn dweud y cyfan. E.e.:

Wales is poor because it was so rich. Its abundant natural resources gave rise to an extractive system, designed to leave as little wealth behind as possible.

Nid mater o genedlaetholdeb ydi hyn, ond mater o greu cyfoeth o fewn y wlad yden ni’n byw ynddi. A mater o allu dreifio i lawr i’r siopau heb gael pynjar, wrth gwrs.