Mae Gogledd Korea wedi dweud heddiw eu bod nhw eisiau trafod â De Korea er mwyn ceisio lleddfu’r tensiynau diweddar rhwng y ddwy wlad.
Daw’r cynnig diweddaraf dyddiau yn unig ar ôl i Dde Korea wrthod cynnig i siarad â’i gymydog gogleddol.
Yn y cyfamser mae cyfrif Twitter swyddogol Gogledd Korea wedi ei hacio, ar ddiwrnod pen-blwydd mab ieuengaf ac etifedd Kim Jong Il, Kim Jong Un.
Cyhoeddwyd pedair neges yn beirniadu’r Kim Jongiau ar y wefan, cyn iddynt gael eu dileu 10 awr yn ddiweddarach.
“Beth am wneud byd newydd drwy ddisodli gelyn y bobol – y bradwr Kim Jong Il a’i fab Kim Jong Un!” meddai un neges.
Roedd neges arall yn annog byddin Gogledd Korea i “anelu gwn” at Kim Jong Il am ddargyfeirio arian tuag at sustem taflegrau niwclear y wlad.
Cynyddodd y tensiynau rhwng Gogledd a De Korea ar ôl i’r gogledd ymosod ar ynys ar ffin forol y ddwy wlad, gan ladd pedwar o bobol, ym mis Tachwedd.