Mae heddwas a ddallwyd ar ôl cael ei saethu gan Raoul Moat wedi dechrau hyfforddi ar gyfer Marathon Llundain.

Dywedodd David Rathband, 42, ei fod am gymryd rhan yn y ras 26 milltir ym mis Ebrill er mwyn codi arian at ei elusen The Blue Lamp Foundation.

Cafodd ei ddallu wrth eistedd yn ei gar heddlu ar gylchfan yn ardal East Denton, Newcastle ar 4 Gorffennaf.

Mae’r elusen yn gobeithio codi £1 miliwn mewn tair blynedd er mwyn helpu gweithwyr y gwasanaethau brys sy’n cael eu hanafu.

Mae David Rathband yn gobeithio y bydd yn denu o leiaf £10,000 mewn nawdd cyn rhedeg y ras.

Fe fydd yn rhedeg gyda heddwas arall, Gareth Rees, o Stevenage, Swydd Hertford, gafodd ei daro gan gar yn 2008.

Bydd dyn arall, Robin Palmer, yn tywys David Rathband. Dywedodd y byddai diflaniad yr eira trwm yn y Gogledd Orllewin yn helpu pethau.

Roedd David Rathband wedi ei chal hi’n anodd cadw ei falans ar felin draed, meddai.

“Mae o’n ystyfnig ac fe fydd o’n llwyddo,” meddai Robin Palmer.