Mae Tywysoges Denmarc wedi rhoi genedigaeth i efeilliaid – bachgen a merch – cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd Teulu Brenhinol y wlad bod Mary, Iarlles Monpezat, wedi rhoi genedigaeth i “ddau blentyn iach” yn ysbyty Rigshospitalet, Copenhagen.

“Mae’r fam a’i phlant yn gwneud yn dda,” meddai llefarydd.

Ganwyd y bachgen 5 pwys 14 owns yn gyntaf, a’i chwaer 5 pwys 10 owns yn ddiweddarach.

Aethpwyd a’r dywysoges 38 oed, sydd o Awstralia yn wreiddiol, i’r ysbyty bore ma, gyda’i gwr, y Tywysog Frederik.

“Mae’n wyrth,” meddai’r tad wrth sianel TV2 Denmarc. “Mae yna ddwy galon fach i gadw llygad arnyn nhw.”

Mae ganddyn nhw ddau o blant yn barod – Christian, pump oed, a Isabella, tair.