Mae clwb pêl-droed Lerpwl wedi cadarnhau bod y hyfforddwr Roy Hodgson wedi cytuno i adael.

Roedd Hodgson dan bwysau mawr i ymddiswyddo yn dilyn cyfres o ganlyniadau gwael eleni sy’n golygu bod y clwb yn y 12fed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Fe fydd Kenny Dalglish yn cymryd yr awenau ar gyfer gêm FA Cup Lerpwl yn erbyn Manchester United yn Old Trafford yfory.

Mewn datganiad ar wefan y clwb dywedodd Hodgson bod “hyfforddi Lerpwl wedi bod yn fraint”.