Mae’n “rhy gynnar” i ddweud eto a fydd rywfaint o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn ystod seremoni priodas y Tywysog William a Kate Middleton.
Mae Tŷ Carlo eisoes wedi rhyddhau rhai manylion am y seremoni – gan gynnwys llwybr taith William a Kate ar y diwrnod mawr.
Cadarnhawyd hefyd mai’r Cymro Cymraeg Rowan Williams, Archesgob Caergaint, fydd yn priodi’r ddau.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol wrth Golwg 360 ei bod hi’n “rhy gynnar i ddweud eto” a fydd yr iaith Gymraeg yn chwarae rhan ym mhriodas Tywysog Cymru.
Mae David Cameron eisoes wedi cadarnhau y bydd 29 Ebrill, diwrnod y briodas, yn ŵyl banc ychwanegol ar gyfer gweithwyr y Deyrnas Unedig.
Y Teulu Brenhinol, a theulu Kate Middleton, fydd yn talu am y briodas, medden nhw. Bydd arian o’r pwrs cyhoeddus yn mynd tuag at gostau eraill gan gynnwys diogelwch.