Mae dynes o Gymru yn gobeithio dod o hyd i gartref newydd i’w mochyn ar ôl iddo fynd yn rhy dew.
Talodd Tracey Lisk £700 am Nessa – wedi ei enwi ar ôl cymeriad Ruth Jones yn Gavin & Stacey – gan gredu na fyddai’n tyfu tu hwnt i 14 modfedd o daldra.
Ond erbyn hyn mae’r mochyn wedi tyfu i 17 modfedd o daldra ac 18 stôn, yn ôl papur newydd y Western Mail.
Mae Tracey Lisk yn pryderu y bydd yr hwch wedi mynd drwy’r siop os ydi Nessa yn parhau i fwyta a malu dodrefn.
“Ar ôl cwpwl o fisoedd fe sylweddolais i ba mor gyflym oedd hi’n tyfu,” meddai Tracey Lisk. “Mae hi’n gariadus iawn ond yn dechrau malu pethau yn y tŷ. Mae hi’n fodlon cnoi unrhyw beth.”
Dywedodd ei bod hi wedi prynu’r mochyn gan fridiwr yng Nghaint ond ei fod yn gwrthod rhoi’r arian yn ôl iddi.
“Does yna ddim lle iddi. Mae angen iddi fod ar fferm,” meddai Tracey Lisk.
Dywedodd llefarydd ar ran elusen RSPCA eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â’r arfer o werthu moch yn anifeiliaid anwes.