Roedd cwmni o Geardydd yn un o ddau ddefnyddiodd wyau llygredig o Ewrop.

Roedd yr wyau sydd wedi dod o’r Almaen, ble’r oedd bwyd gyda diocsinau gwenwynig ynddo wedi ei anfon i fwy na 1,000 o ffermydd ieir a moch.

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd mai Memory Lane Cakes yng Nghaerdydd oedd un o’r ddau gwmni ddefnyddiodd yr wyau.

Ond bach iawn yw’r perygl i iechyd pobol sy’n bwyta’r bywydd oherwydd mai un cynhwysun ymysg nifer yw’r wyau.

Dywedodd archfarchnad Tesco bod ambell un o’u cacennau nhw wedi eu heffeithio ond na fyddai’r un ohonyn nhw ar y shilffoedd tu hwnt i 15 Ionawr.

“Fe gafodd yr wyau llygredig eu cymysgu gydag wyau eraill i greu hylif wyau wedi’i basteureiddio ac fe gafodd ei ddosbarthu i Brydain,” meddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

“Fe fydd cymysgu’r wyau wedi gwanhau’r lefel o ddiocsinau a dyw e ddim yn cael ei ystyried yn beryg i iechyd.”