Mae cadwyn HMV wedi dweud ei bod hi’n anhebygol y bydd unrhyw un o’u siopau yng Nghymru yn cau.

Ddechrau’r wythnos cyhoeddodd HMV y byddan nhw’n cau 60 o siopau ar hyd a lled gwledydd Prydain ar ôl Nadolig siomedig.

Ar y pryd wnaethon nhw ddim dweud a fydd rhai o’r rheiny yng Nghymru, lle mae ganddyn nhw wyth o siopau i gyd.

Ond bellach maen nhw wedi cadarnhau mai yn y dinasoedd mwyaf yn unig, ble mae yna ragor nag un siop HMV, y bydd siopau yn cau.

Mae gan HMV siopau ym Mangor, Caerdydd, Llanelli, Abertawe, Casnewydd, Cwmbrân, Wrecsam a Llandudno.

Siopau Casnewydd a Chwmbrân yw’r agosaf i’w gilydd.

“Dim ond tua 10% o’n siopau sy’n debygol o gau ac mae’r rhan fwyaf yn mynd i fod mewn dinasoedd mawr,” meddai’r cwmni.

“Fe fydd y siopau sy’n cau yn reit agos i’w gilydd a dyw hynny ddim yn wir yng Nghymru.”

Roedd gwerthiant y cwmni, sy’n arbenigo mewn cryno ddisgiau, DVDs a gemau cyfrifiadurol, i lawr 13.5% yn ystod mis Rhagfyr 2010, o’i gymharu â Rhagfyr 2009.