Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, wedi dweud ei fod wedi ystyried hunanladdiad wrth frwydro â’r ffaith ei fod yn hoyw.
Dywedodd y chwaraewr rygbi 36 oed ei fod wedi eistedd ar ymyl pwll nofio â photel o fodca ac ystyried boddi ei hun.
Daw’r cyfaddefiad mewn fideo ar gyfer prosiect It Gets Better yr Unol Daleithiau. Y bwriad yw dangos i bobol ifanc hoyw y bydd pethau’n gwella wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Mae’r fideo a gyhoeddwyd ar wefan YouTube yr wythnos yma eisoes wedi denu 10,000 o wylwyr.
“Cefais fy magu mewn ardal dosbarth gweithiol, gwrol iawn,” meddai yn y fideo. “Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi fy ngeni mewn i fyd oedd yn ceisio fy ngwneud i’r un fath a phawb arall.
“Roeddwn i eisiau bod yn chwaraewr rygbi – yn galed, yn macho. A doedd hynny ddim yn cyd-fynd â bod yn hoyw.
“Roedd bod yn chwaraewr rygbi llwyddiannus, a bod yn enw mawr o gwmpas y byd yn gwneud pethau’n anodd iawn.
“Un diwrnod roeddwn i’n eistedd wrth fy mhwll nofio gyda fy nghoesau’n hongian yn y pwll, botel o fodca yn un llaw, yn ceisio dod o hyd i’r dewrder i daflu fy hun yn y dŵr, cau fy llygaid, a pheidio â deffro byth eto.
“Ond sylweddolais i, os nad oeddwn i’n gallu marw, roedd rhaid i mi ddechrau byw.”