Dyn digartref oedd y gŵr a gafodd ei lofruddio yng nghanol dinas Abertawe ddoe.
Roedd David Michael Alan Williams, 26, yn ffigwr adnabyddus ar y strydoedd ble’r oedd yn cysgu.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff am bedwar o’r gloch fore ddoe ger siop Iceland yn Sgwâr yng nghanol y ddinas.
Er eu bod yn pwysleisio bod dau ddyn – 37 a 33 oed – wedi eu harestio ar amheuaeth o’i lofruddio, mae’r heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth.
Mae’r ddau’n parhau i gael eu holi yn swyddfeydd heddlu Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr ac mae stafell i oruchwylio’r ymchwiliad wedi ei sefydlu yn Swyddfa Heddlu Cocyd.
Tystion
Maen nhw eisiau clywed gan unrhywun oedd yn strydoedd Portland, Whitehall neu Rydychen rhwng tri a phedwar fore ddoe.
Roedd post mortem yn cael ei gynnal brynhawn ddoe i geisio deall union achos marwolaeth David Williams.
Llun: Prif swyddfa heddlu Abertawe (ourbobby)