Y Gleision 24 Aironi 13

Y newyddion da i’r Gleision a Chymru oedd bod yr asgellwr Leigh Halfpenny wedi sgorio cais yn ei gêm lawn gynta’ ers anaf hir.

Ond gêm ddiflas iawn oedd hi wrth i’r Gleision guro tîm sydd heb fuddugoliaeth eto yng Nghynghrair Magners.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i’r trydydd lle uwchben y Scarlets a’r tu ôl i Munster a Leinster ond, ar wahân i ychydig symudiadau yn yr hanner cynta’, doedd fawr ddim i gyffroi’r dorf.

Ceisiau

Fe ddaeth yr holl geisiau cyn yr egwyl – Halfpenny’n dilyn cic gyfrwys gan Ceri Sweeney ac yna Aironi ac wedyn bachwr y Gleision, Rhys Thomas, yn croesi o linellau’n agos at y lein.

Roedd y Gleision ar y blaen o 15-7 ar ddiwedd yr hanner cynta’ a dim ond ciciau oedd wedyn gyda’r Eidalwyr yn dod â’r sgôr i 15-13 wrth fynd i’r chwarter ola’.

Roedd cic gosb a gôl adlam gan Sweeney a chic gosb hwyr gan Dan Parks yn ddigon i roi’r fuddugoliaeth i’r Gleision, ond nid y pwynt bonws pwysig.

Llun: Leigh Halfpenny