Leinster 15 Gweilch 10

Fe gollodd y Gweilch mewn gêm galed mewn amgylchiadau caled yn Leinster – er eu bod ar y blaen am y rhan fwya’ o’r hanner cynta’.

Cicio Jonathan Sexton i’r Gwyddelod oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm wrth i’r Cymry sgorio’r unig gais.

Fe ddaeth hwnnw ar ôl chwarter awr gan y capten tros-dro Justin Tipuric, gyda’r trosiad gan Dan Biggar hefyd yn rhoi’r Gweilch 10-6 ar y blaen.

Er bod Sexton wedi cael un gic gosb arall, roedd y Gweilch 10-9 ar y blaen ar yr egwyl mewn tywydd gwael.

Unig sgoriau’r ail hanner oedd dwy gic gosb gan Sexton wrth i Leinster gadw’u gafael yn y gêm a chadw’r Gweilch yn dawel.

Llun: Dan Biggar – cic gosb a throsiad i’r Gweilch