Mae cyn-Ysgrifennydd Cartref yn dweud bod rhaid mynd i’r afael â phroblem gangiau o ddynion ifanc o dras Pacistanaidd sy’n gwneud defnydd rhywiol o ferched ifanc gwynion.
Er mai pobol wynion yw’r rhan fwya’ o droseddwyr rhyw yng ngharchardai gwledydd Prydain, roedd yna broblem arbennig gyda gangiau o dras Pacistanaidd, meddai Jack Straw.
Roedd yn siarad ar y rhaglen deledu, Newsnight, ar ôl i ddau ddyn gael cyfnodau hir o garchar am arwain gang a fu’n cam-drin merched gwynion yn rhywiol yn ardal Derby.
Fe fydd rhaid i Abid Mohammed Saddique, 27, aros yn y carchar am o leia’ 11 mlynedd a Mohammed Romaan Liaqat, 28, am o leia’ wyth ar ôl yr achos yn Llys y Goron Nottingham ddoe.
Roedd 11 o ddynion i gyd wedi wynebu cyhuddiadau ynglŷn â’r digwyddiadau.
‘Angen ymchwilio’
Yn ôl Jack Straw, mae angen i’r gymdeithas Bacistanaidd ei hun “ystyried yn galetach” pam fod hyn yn digwydd a pham bod dynion o dras Pacistanaidd yn credu ei bod “yn iawn i dargedu merched gwynion”.
Roedd un o’r prif blismyn yn yr achos a’r Prif Weinidog hefyd wedi dweud bod rhaid ymchwilio i achosion o’r fath, beth bynnag oedd y cefndir hiliol.
Ond mae’r blaid asgell dde eithafol, y BNP, hefyd wedi defnyddio’r achos i honni eu bod nhw’n iawn yn tynnu sylw at y broblem flynyddoedd yn ôl.