Mae Heddlu Gogledd Cymru’n ymchwilio i danau amheus mewn dau dŷ gwag mewn pentref ym Mhen Llŷn.

Roedd y cynta’ ddiwrnod Nadolig a’r ail nos Iau’r wythnos hon – doedd neb yn y tai ar y pryd a does neb wedi brifo.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n ystyried bod yr ail dân wedi ei gynnau’n fwriadol ac mae’r llall yn “amheus”.

Mae swyddogion wedi bod yn holi o dŷ i dŷ ond mae’r heddlu’n gofyn am dystiolaeth gan unrhyw un a welodd rywbeth amheus.

Maen nhw’n cadw meddwl agored wrth ystyried a oedd cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad ai peidio.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 0845 6071002 neu alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Llun: Chwilog (Martyn Croydon CCA 3.0)