Mae nifer o fusnesau taith yn dangos diddordeb mewn prynu Bysys Diamond, y cwmni o Abertawe a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddoe.
Mae rhai o’r cwsmeriaid hefyd wedi cael sicrwydd o arian yn ôl – roedd gan y cwmni yswiriant a chytundeb gyda’r gymdeithas cwmnïau teithio, ABTA – ond mae pobol a oedd wedi trefnu teithiau diwrnod yn debyg o golli’u pres.
Fe ddywedodd cwmni cyfrifwyr Price Waterhouse Cooper y byddan nhw’n trafod gyda rhai o’r prynwyr posib yn ystod y dyddiau nesa’.
Yr amgylchiadau economaidd anodd sy’n cael y bai am fethiant y cwmni sydd hefyd yn cynnwys Brian Isaac Coaches ac yn cyflogi cyfanswm o 86 o bobol.
Roedd y cwmni’n cario tua 80,000 o bobol bob blwyddyn ac yn cynhyrchu incwm o gymaint ag £11 miliwn.
Yswiriant
Fe ddywedodd Price Waterhouse Cooper eu bod eisoes yn cysylltu gyda phobol a oedd wedi archebu tripiau dydd ac fe fydd y cwmni yswiriant yn delio gyda cheisiadau’r gweddill.
Fydd dim o deithiau Diamond yn digwydd ar hyn o bryd, medden nhw, ond y gobaith oedd y byddai prynwyr posib yn addo anrhydeddu rhai ohonyn nhw.
Llun: Blaen un o fysys Diamond (sludgegulper CCA 3.0)