Carcharu’r cyn AS David Chaytor yw un o’r camau cyntaf i adfer ffydd y cyhoedd yn y Senedd, meddai Barnwr Llys y Goron.
Fe gafodd y gwleidydd Llafur ei ddedfrydu i 18 mis dan glo yn Llys y Goron Southwark ar ôl pledio’n euog i dri achos o ffugio cyfrifon trwy hawlio lwfansau di-sail.
Ef yw’r gwleidydd cynta’ i gael ei garcharu am ei ran yn sgandal lwfansau San Steffan, pan fu raid i ASau dalu degau o filoedd o arian yn ôl.
Roedd cyn AS Gogledd Bury wedi hawlio rent am dŷ yr oedd yn berchen arno ac am un arall oedd yn eiddo i’w fam. Roedd hefyd wedi hawlio am fil nad oedd yn bod.
Roedd y ceisiadau ffug yn torri ymddiriedaeth pobol yn eu haelodau seneddol meddai’r Barnwr Mr Ustus Saunders.
“Mae’n rhaid i’w hymddygiad fod yn gwbl onest os ydyn ni am gynnal hyder y cyhoedd yn y system seneddol a rheolaeth y gyfraith.”
Llun: Llys y Goron Southwark