Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud y bydd ei dîm yn anelu at guro Stoke yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA yfory.
Fe fydd yr Adar Glas yn teithio i Stadiwm Britannia i geisio achosi sioc yn erbyn y clwb o Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae rhai wedi awgrymu nad yw rhediad yn y Cwpan FA yn flaenoriaeth i Gaerdydd y tymor hwn wrth iddyn nhw geisio ennill dyrchafiad allan o’r Bencampwriaeth.
Ond mae’r rheolwr wedi dweud bod ei dîm yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn tîm y Cymro o Gasnewydd, Tony Pulis.
Mynd i ennill
“R’yn ni’n mynd i Stoke i ennill, felly r’yn ni am chwarae’r tîm gorau sydd ar gael i ni,” meddai Dave Jones.
“Ond mae’n rhaid i ni fod yn synhwyrol. Mae’r Cwpan FA yn bwysig i ni – mae pob gêm yn bwysig i ni”
“Fydden i fyth eisiau mynd i mewn i gêm heb ymroddiad llwyr i ennill. Dyw hynny ddim yn dda i’r chwaraewyr na’r cefnogwyr.”
Her anodd
Mae Dave Jones yn credu bod ei dîm yn wynebu her anodd yn erbyn Stoke sy’n ddegfed yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.
“Mae Stoke yn dîm gyda chwaraewyr da. Mae Tony Pulis wedi gwneud newidiadau yno dros y 18 mis diwethaf ac maen nhw’n dîm Uwch Gynghrair da.”
Llun: Tony Pulis (Ad92 CCA 3.0)