Mae’r Gweilch wedi penodi Justin Tipuric yn gapten ar y rhanbarth ar gyfer y daith i Ddulyn i wynebu Leinster heno.
Y chwaraewr rheng ôl 21 oed fydd yr ail gapten ieuengaf erioed i arwain y Gweilch – roedd Jonathan Thomas a oedd wedi arwain y rhanbarth bedair wythnos ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed yn 2004.
Dim ond 14 mis yn ôl y cafodd Tipuric ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ac mae’r chwaraewr ifanc wedi dweud ei fod yn anrhydedd i allu arwain ei dîm lleol.
“Mae cael fy mhenodi’n gapten ar y Gweilch yn beth arbennig i mi, yn enwedig gan ei fod wedi dod yn gynnar yn fy ngyrfa,” meddai Justin Tipuric.
“Mae pawb yn breuddwydio bod yn gapten ar dîm ac os ydw i am wneud hynny eto, fe fydd rhaid i mi sicrhau fy mod i’n chwarae’n gyson.”
Newyddion y tîm
Gyda dwy gêm bwysig yng Nghwpan Heineken yn hwyrach yn y mis yn erbyn Gwyddelod Llundain a Toulon, mae’r Gweilch wedi penderfynu gorffwys sawl chwaraewr allweddol.
Fe fyddan nhw’n wynebu Leinster heb sawl chwaraewr rhyngwladol gan gynnwys Alun Wyn Jones, Adam Jones, Mike Phillips a Jonathan Thomas.
Mae Paul James a Richard Hibbard hefyd yn cael eu gorffwys, ynghyd â Tommy Bowe, Jerry Collins a Marty Holah.
Yr unig chwaraewyr sy’n cadw eu lle yn y tîm ar ôl colli i’r Gleision yr wythnos ddiwethaf yw Barry Davies, Richard Fussell, Dan Biggar ac Ian Gough.
Carfan y Gweilch
15 Barry Davies 14 Nikki Walker 13 Sonny Parker 12 Ashley Beck 11 Richard Fussell 10 Dan Biggar 9 Rhys Webb.
1 Duncan Jones 2 Huw Bennett 3 Craig Mitchell 4 Ian Gough 5 Ian Evans 6 Tom Smith 7 Justin Tipuric 8 Ryan Jones.
Eilyddion – 16 Mefin Davies 17 Ryan Bevington 18 Cai Griffiths 19 James Goode 20 Jonathan Thomas 21 Jamie Nutbrown 22 James Hook 23 Gareth Owen.
Llun: Justin Tipuric