Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi buddsoddiad £13m a fydd yn helpu darparu gwasanaethau cyhoeddus i awdurdodau lleol yn ardaloedd tlotaf Cymru.

Bydd y fenter yn dod â Byrddau Gwasanaethau Lleol o 15 awdurdod at ei gilydd yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i drefnu prosiectau er mwyn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau.

Fe fydd y ddau brosiect cynta’n dechrau’r mis yma yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr gyda gwasanaethau i deuluoedd.

Nod y buddsoddiad yw torri ar gostau hir dymor trwy sicrhau bod yna rwydwaith effeithiol o wasanaethau i gydweithio gyda’i gilydd i gynnig atebion ac i ddatrys problemau yn haws.

Mae’r 15 cyngor yn yr ardaloedd sy’n derbyn arian arbennig gan Ewrop oherwydd tlodi cymharol eu heconomïau.

‘Dim torri swyddi’

Gyda chymorth arian Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys £7.7 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd y fenter yn datblygu sgiliau ac arbenigedd i gynyddu arbedion a hyrwyddo rhagor o gydweithio rhwng sefydliadau.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud nad yw’r buddsoddiad yma’n golygu y bydd yna doriadau mewn swyddi.

Roedd y llefarydd hefyd wedi nodi nad yw’n hyn yn ddechrau ar leihau’r nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru.

‘Cyfnod economaidd anodd’

Mae Jane Hutt wedi dweud bod Llywodraeth y Cynulliad yn “benderfynol o barhau i wella’r gwasanaethau yr ydyn ni’n eu darparu.”

“Mae hyn yn rhoi hwb mawr i’r gwasanaethau cyhoeddus yn ystod cyfnod economaidd anodd,” meddai Jane Hutt.

Llun: Jane Hutt