Mae Aelod Cynulliad yn dweud bod adroddiadau am un o gwmnïau gwyliau mwyaf Cymru’n mynd i’r wal yn “dorcalonnus” i’r gweithwyr.
Y gred yw y gallai cymaint â 70 golli eu swyddi wrth i gwmni Gwyliau Diamond, sy’n trefnu teithiau mên bysus moethus, fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Mae neges ffôn gan Diamond Holidays yn eu canolfan yn Abertawe yn datgan eu bod yn y broses o “geisio gorchymyn gweinyddu”.
“Mae angen i Weinidogion Llafur-Plaid weithio’n agos gyda’r cwmni i helpu gweithwyr sy’n colli eu swyddi ddod o hyd i swyddi a sgiliau newydd,” meddai Darren Millar AC.
“Dyma dystiolaeth bellach fod yr economi yng Nghymru’n wynebu cyfnod o sialens ac angen strategaeth gliriach ar gyfer twf yr economi yng Nghymru.”
Llun: Yr arwydd ar flaen un o fysys Diamond (Sludgegulper CCA 3.0)