Mae hyfforddwr Cymru, Gary Speed wedi gofyn i Danny Gabbidon ail ystyried ei benderfyniad i ymddeol o bêl droed rhyngwladol.

Ac mae rheolwr Stoke wedi awgrymu y gallai’r chwaraewr a dorrodd goes Aaron Ramsey chwarae i Gymru hefyd.

Eisoes, mae Speed wedi rhoi awgrym cry’ ei fod am geisio denu Simon Davies, Fulham, yn ôl i’r garfan a hyd yn oed ei wneud yn gapten. Fe fyddai Gabbidon yn bluen arall yn ei het.

Anafiadau cyson

Fe benderfynodd amddiffynnwr West Ham rhoi’r gorau i chwarae dros Gymru ym mis Hydref llynedd ar ôl dioddef o anafiadau cyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yr anafiadau’n golygu mai dim ond tair gêm yr oedd Gabbidon wedi eu chwarae i Gymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Roedd chwaraewr canol cae Cymru a Celtic, Joe Ledley, wedi defnyddio ei gyfrif Twitter yn gynharach yn yr wythnos i alw ar Gabbidon i ail ystyried ei benderfyniad i ymddeol o’r lefel rhyngwladol.

“Rwy’n credu dylai Danny Gabbidon ddod ‘nôl i chwarae i Gymru. Mae ei angen e arnon ni,” meddai Joe Ledley.

Shawcross i Gymru?

Rheolwr Stoke, y Cymro Tony Pulis, sydd wedi awgrymu y gallai amddiffynnwr y clwb, Ryan Shawcross chwarae i Gymru yn y dyfodol.

Fe allai hynny olygu bod Shawcross yn chwarae yn yr un tîm gyda Aaron Ramsey ar ôl torri coes chwaraewr talentog Arsenal mewn tacl erchyll ym mis Chwefror llynedd.

Mae Ryan Shawcross yn gymwys i chwarae dros Gymru ar ôl newid yn y rheolau gan FIFA.

Bellach mae chwaraewr sydd wedi derbyn eu haddysg am o leiaf bum mlynedd mewn gwlad yn gymwys i chwarae drosti. Roedd y Sais wedi ei fagu yn Sir y Fflint.

Ceisio’i ddenu

Mae hyfforddwr dan 21 Cymru Brian Flynn eisoes wedi ceisio denu Shawcross i chwarae dros Gymru, ac fe allai Gary Speed wneud ymgais arall.

Fe gafodd yr amddiffynnwr ei gynnwys yng ngharfan Lloegr am y tro cyntaf ychydig oriau ar ôl torri coes Aaron Ramsey llynedd ond, gan a chafodd ei ddewis, mae’n rhydd i chwarae dros Gymru.

“Mae Ryan yn credu ei bod yn rhy gynnar i wneud penderfyniad am ei yrfa ryngwladol,” meddai Tony Pulis wrth bapur y Western Mail. “Fe fydda’ i’n ei gefnogi beth bynnag fydd ei ddewis gan ei fod yn chwaraewr gwych i ni”

“Er fy mod i’n Gymro balch, penderfyniad Ryan yw hwn – fyddai’ i ddim yn ceisio dylanwadu arno.”

Llun: Danny Gabbidon