Mae argyfwng gwenwyno plwm sydd wedi lladd dros 400 o blant yng ngogledd Nigeria wedi cael ei “esgeuluso”, meddai swyddogion y Cenhedloedd Unedig heddiw.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio fod y sefyllfa yn nhalaith Zamfara yn parhau’n “frawychus, ac yn parhau’n fygythiad iechyd” i nifer o bentrefi yn yr ardal wledig.

Mae profion gan swyddogion y Cenhedloedd Unedig rhwng Medi a Thachwedd wedi darganfod lefelau plwm 500 gwaith yn uwch na’r lefel dderbyniol yn yr awyr, ac mae lefelau uchel hefyd wedi eu darganfod yn y dŵr a’r pridd.

Dechreuodd yr argyfwng ym mis Mawrth, pan ddaeth cloddfeydd aur bach yn y pentrefi ar draws gwythien o aur yn cynnwys lefelau uchel o blwm.

Mae gwenwyno plwm yn gallu achosi niwed i’r ymennydd, dallineb, colli golwg a chlyw a hyd yn oed farwolaeth mewn plant ifanc.