Mae’r pennaeth gwasanaethau cymdeithasol a gollodd ei swydd yn achos Baby P wedi rhybuddio y bydd rhagor o blant bregus yn cael eu lladd gan rieni sydd dan bwysau mawr oherwydd toriadau ariannol.

Yn ei haraith gynta’ ers cael ei diswyddo, fe ddywedodd Sharon Shoesmith, cyn-bennaeth gwasanaethau plant Hackney, y bydd yr holl welliannau yn y maes yn cael eu colli oherwydd y toriadau.

“Bydd tlodi plant yn codi, dydw i ddim yn credu fod unrhyw amheuaeth am hynny. Dw i’n credu fod pawb nawr yn disgwyl y bydd y toriadau hyn yn taro’n galed ar blant sy’n agored i niwed.

“Mae’r cyfan yn golygu mwy o risg i blant, y peryg y bydd mwy o blant yn marw wrth ddwylo eu rhieni sydd dan bwysau anobeithiol.”

‘Brwydr’

Fwy na thair blynedd ers marwolaeth Baby P, fe ddywedodd wrth Gynhadledd Addysg yn Blackpool ei bod yn parhau i “frwydro” o ddydd i ddydd wrth ddelio â marwolaeth Peter Connelly.

“Doedd ddim unrhyw amheuaeth ynghylch pa mor edifar a gofidus oedden ni ynghylch ei lofruddiaeth greulon, ” meddai.

Llun: Babi P