Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad a laddodd 17 o bobol mewn baddondy yn nwyrain Afghanistan.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Taliban eu bod nhw wedi targedu un o brif heddweision y dalaith a oedd yn helpu i warchod ffiniau yn Kandahar.
Mae swyddogion wedi cadarnhau bod yr heddwas wedi cael ei ladd ond dydyn nhw ddim wedi datgelu rhagor o wybodaeth.
Fe gafodd 23 person arall eu hanafu yn yr ymosodiad gan hunan-fomiwr yn ninas Spin Boldak wrth i’r dynion ymolchi yn y baddondy cyn gweddïo.
Mae Nato hefyd wedi cyhoeddi bod un o’u milwyr wedi marw yn dilyn ffrwydrad ochr ffordd yn ne Afghanistan.
Mae Nato wedi cryfhau eu lluoedd yn y rhan yma o’r wlad, ond mae’r Taliban wedi dal eu tir yn ogystal â lledaenu eu hymgyrchoedd terfysgol i ardaloedd eraill o Afghanistan.
Llun: Map yn dangos Spin Boldak yn Kandahar