Mae 62 o weithwyr wedi cael eu taro’n sâl ar ôl i gemegion ddianc i’r awyr mewn ffatri fferyllol yn nwyrain China.
Yn ôl adroddiadau gan asiantaeth newyddion Xinhua, mae 37 ohnyn nhw yn dal i fod yn yr ysbyty heddiw, wedi i’r nwyon fynd i’w hysgyfaint ddoe.
Mae’r awdurdodau’n parhau i ymchwilio i achos y ddamwain ar hyn o bryd.
Mae’r adroddiad gan Xinhua yn dweud mai cemegyn o’r enw phosgene oedd wedi dianc i’r aer – cemegyn sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin ar gyfer plaleiddiaid, meddyginiaethau lladd poen, a meddyginiaethau gwrthfiotig.
Digwyddodd y ddamwain yn ffatri’r cwmni fferyllol Wanbei, yn Suzhou yn nhalaith Anhui.
Mae damweiniau yn y gweithle yn lladd miloedd yn China bob blwyddyn, ac mae’r bai yn cael ei roi ar y diffyg pwyslais ar reolau diogelwch a hyfforddiant gweithwyr.
Llun: Moleciwl phosgene