Mae’r Gwasanaeth Tân a’r Heddlu’n ymchwilio ar ôl i fenyw farw ar ôl tân mewn tŷ yn Llanelli heddiw.
Fe gafodd y gwasanaethau eu galw i’r safle yn ardal Llanelli tua 2 o’r gloch fore heddiw.
Roedd y ddynes 38 oed yn yr adeilad ac fe gafodd ei chymryd i Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r crwner a pherthnasau agosaf y ddynes wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Fe fydd y Gwasanaeth Tân a’r Heddlu’n archwilio’r safle i geisio penderfynu beth oedd achos y tân.
Llun: Un oddiffodwyr Gwasanaeth y Gorllewin a’r Canolbarth