Mae’r chwaraewr dartiau o Ddolgellau, Martin Phillips yn credu y gallai ennill Pencampwriaeth Dartiau BDO y Byd ar ôl cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Mae’r chwaraewraig o Lanelli, Rhian Edwards, hefyd wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth y menywod.

Fe lwyddodd Martin Phillips i guro Gary Robson 5-4 yn rownd yr wyth olaf yn y Lakeside ac fe fydd yn wynebu pencampwr presennol y byd, Martin Adams, yn y rownd nesaf.

Ar ei hôl hi ar y dechrau

Roedd y Cymro ar ei hôl hi ar ddechrau’r gêm gyda Robson yn mynd 2-0 a 3-1 ar y blaen.

Ond wrth i’r gêm fynd yn ei blaen fe wellodd chwarae Phillips ac fe frwydrodd yn ôl i 4-4.
Fe lwyddodd Martin Phillips i daro dwbl 12 ar ei drydydd cynnig i sicrhau buddugoliaeth 5-4.

Roedd Martin Phillips yn 20/1 gan y bwcis i ennill y gystadleuaeth ar ddechrau’r gystadleuaeth ond fe ddisgynnodd i 8/1 cyn wynebu Gary Robson.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Cymro gyrraedd rownd gyn derfynol y gystadleuaeth ac mae’n ffyddiog y bydd yn gallu mynd un cam ymhellach eleni.

‘Brwydr’

“Rwy’n credu y gallaf ennill. Roedd y gêm yn erbyn Gary yn frwydr. Ro’n i wedi cael trafferth i aros gydag ef ar y dechrau,” meddai Martin Phillips.

“Ond fydda’ i ddim yn rhoi’r gorau iddi nes bod y gêm wedi gorffen. Roeddwn ni’n emosiynol ar y diwedd ond doeddwn ni ddim am ddangos hynny.”

Llwyddiant i Rhian Edwards

Mae Rhian Edwards wedi cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Dartiau BDO Menywod y Byd ar ôl curo’r ail ddetholyn, Deta Hedman, o 2-0 mewn 22 munud i gyrraedd y rownd nesaf.

“Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r gêm heblaw am daro’r dyblau. Ond roeddwn i wedi ymlacio llawer mwy,” meddai Rhian Edwards.

“Dw i wrth fy modd gyda’r fuddugoliaeth a hefyd tros Martin Williams a dartiau Cymru.”

Lluin: Rhian Edwards