Mae amodau gyrru gwael mewn sawl rhan o Gymru ar ôl i eira ddisgyn dros nos ac yn gynnar y bore.

Fe ddywedodd y Swyddfa Dywydd bod rhwng 3 a 5 modfedd wedi disgyn yn rhannau o Gymru gyda Blaenau’r Cymoedd, y canolbarth a’r Gogledd-ddwyrain yn cael y gwaethaf.

Yn ôl Traffig Cymru roedd pethau’n anodd ar un adeg ar yr A55 rhwng cyffordd 28 Rhuallt a chyffordd 35A Brychdyn, yn ogystal ag ar Hewl Blaenau’r Cymoedd, yr A465, rhwng Y Fenni a Merthyr.

Mae yna ysgolion ar gau, yn arbennig ym Mhowys ac mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bydd eira trwm yn parhau mewn rhannau o’r gogledd-ddwyrain yn ogystal ag yn y De tan y prynhawn.

Er hynny, glaw sy’n cael ei addo at gyda’r nos gyda thywydd sych ddydd Sadwrn.

Llun: Yr A55 ar riw Rhuallt ddiwedd y bore (Camerau’r Llywodraeth)