Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl darganfod corff yn Ffordd Portland Abertawe, yn oriau mân y bore.
Mae’r heddlu wedi agor ystafell ymchwiliad i ddelio â’r digwyddiad yng ngorsaf Heddlu Cockett.
Mae dau ddyn, 33 a 37 oed, wedi’u harestio ac yn cael eu holi gan yr heddlu yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.
Fe ddywedodd Heddlu De Cymru bod ganddyn nhw fwy o blismyn nag arfer yng nghanol Abertawe ac nad oes rheswm i bobol bryderu.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw weithgarwch amheus yn ystod y digwyddiad gysylltu gyda’r ystafell digwyddiad ar 01792 562732 neu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.