Mae’r Dreigiau wedi ennill eu gêm gyntaf ers mis Tachwedd gyda buddugoliaeth 17-16 yn erbyn Connacht yn Rodney Parade.
Fe sgoriodd asgellwr Cymru, Aled Brew, gais a chreu un arall i’r rhanbarth Cymreig i’w helpu i drechu’r Gwyddelod.
Fe sgoriodd Brew wedi tri munud ar ôl cydweithio gyda Tom Riley ar yr asgell chwith am ei bumed cais o’r tymor.
Fe drawodd y Gwyddelod yn ôl gyda chic gosb gan y cefnwr Ian Keatley ac yna trosgais gan Troy Nathan.
Ond gyda phum munud o’r hanner yn weddill fe aeth Brew ar rediad o’r llinell hanner cyn canfod Riley a chreu ail gais i’r Dreigiau.
Yr ail hanner
Roedd y ddau dîm yn gwastraffu meddiant yn ystod yr ail hanner cyn i’r ymwelwyr fynd yn ôl ar y blaen gyda chic gosb arall gan Keatley.
Ond fe gafodd y Dreigiau gyfle arall i ennill y gêm ar ôl i fachwr Connacht, Sean Cronin, atal y bêl mewn ryc.
Fe lwyddodd Jason Tovey gyda chic o 38 metr i sicrhau buddugoliaeth o un pwynt i dîm Paul Turner.
Mae’r fuddugoliaeth wedi codi’r Dreigiau i’r nawfed safle yng Nghynghrair Magners.
Llun: Aled Brew (o wefan y Dreigiau)