Fe fydd mewnwr y Gleision, Richie Rees, yn colli pob gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei wahardd am 12 wythnos.

Ond fe allai hynny olygu cyfle i gyn fewnwr Cymru, Dwayne Peel, y ffefryn i gymryd lle Rees yn y sgwad cenedlaethol.

Fe gafwyd Rees yn euog o roi ei fys yn llygad bachwr Lloegr a Northampton, Dylan Hartley, yn ystod gêm Cwpan Heineken cyn y Nadolig.

Roedd y mewnwr wedi pleidio’n ddieuog yn y gwrandawiad gan ddweud mai damweiniol oedd unrhyw gyffwrdd gyda llygaid Hartley.

Tystiolaeth

Roedd y swyddog disgyblu, Pat Barriscale, wedi gwylio ffilm o’r digwyddiad o sawl ongl yn ogystal â derbyn tystiolaeth feddygol am anafiadau Dylan Hartley.

Fe glywodd dystiolaeth dros y ffôn gan y bachwr yn ogystal â thystiolaeth gan Brif Weithredwr y Gleision, Robert Norster, a swyddog disgyblu Cwpan Rygbi Ewrop, Roger O’Connor.

Fe benderfynodd Pat Barriscale bod Rees yn euog o chwarae brwnt, er iddo benderfynu mai difeddwl ac nid bwriadol oedd y cyffyrddiad gyda llygaid Dylan Hartley.

Colli’r Chwe Gwlad

Fe fydd y gwaharddiad yn atal Richie Rees rhag chwarae tan 31 Mawrth gan olygu colli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r Gleision wedi dweud eu bod nhw am aros i gael y dyfarniad ar bapur gan Gwpan Rygbi Ewrop cyn gwneud unrhyw sylwadau.

Yn y cyfamser, mae hyfforddwyr Cymru wedi rhoi awgrym cry’ y gallai Peel ddod yn ôl i’r garfan – ar ôl sawl tymor hysb, mae’r mewnwr o Gwm Gwendraeth yn cael cyfnod da i’w glwb, Sale.

Llun: Richie Rees