Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud nad oes gan gyn-Arlywydd yr Arfordir Ifori hawl i geisio anfon llysgennad y Deyrnas Unedig o’r wlad.

Dydyn nhw ddim yn cydnabod datganiadau gan Laurent Gbagbo, medden nhw, gan ddweud ei fod wedi colli etholiad arlywyddol diweddar yn y Côte d’Ivoire.

Mae gwledydd Prydain ymhlith nifer o wledydd y gorllewin sy’n dweud y dylai Laurent Gbagbo ildio’i le i’w wrthwynebydd, Alassane Quattara.

Mae grŵp o wledydd eraill yng ngorllewin Affrica hefyd yn rhoi pwysau ar y cyn-Arlywydd gan ddweud eu bod yn fodlon cymryd camre milwrol yn y pen draw.

Gwrthod llysgennad

Roedd y Swyddfa Dramor wedi dweud eisoes nad ydyn nhw’n cydnabod llysgennad Laurent Gbagbo yn Llundain.

Roedd Canada wedi cymryd cam tebyg ac mae’n ymddangos bod ymgais i anfon eu swyddogion nhwthau o’r Arfordir Ifori.

Ers cyn y Nadolig, roedd y Swyddfa Dramor wedi dweud wrth Brydeinwyr na ddylen nhw ddim teithio i’r wlad ac y dylai dinasyddion Prydeinig sy’n byw yno geisio gadael.

Datganiad y Swyddfa Dramor

Mae Llywodraeth Prydain yn cydnabod mai Alassane Quattara yw arlywydd democrataidd yr Arfordir Ifori,” meddai datganiad y Swyddfa Dramor.

“Mae’n derbyn dilysrwydd datganiadau sy’n cael eu gwneud gan ei lywodraeth neu ar ei rhan.

“Dyw Llywodraeth Prydain ddim yn derbyn dilysrwydd datganiadau sy’n cael eu gwneud gan eraill.”