Mae llefarydd un o bleidiau’r Llywodraeth yng Nghymru wedi galw am gael gwared ar Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.

Fe ddylai’r gwasanaeth gael ei roi yn ôl yn nwylo’r Byrddau Iechyd Lleol, meddai Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd.

Wrth i’r ffigurau diweddara’ ddangos bod yr Ymddiriedolaeth wedi methu unwaith eto i gyrraedd ei thargedau ar gyfer galwadau brys, mae AC Llanelli’n dadlau bod angen mwy o wybodaeth leol.

“Mae uwch reolwyr yn yr Ymddiriedolaeth ymhell iawn i ffwrdd, yn ddaearyddol a chymdeithasol, o lawer o’r cymunedau y mae’r ambiwlans yn eu gwasanaethu,” meddai.

Tywydd yn ‘tanlinellu’r problemau’

Roedd yn canmol gweithwyr y gwasanaeth am lwyddo i wneud cystal yn ystod y tywydd caled ond roedd angen rheolaeth fwy lleol er mwyn trefnu pethau’n well y tu allan i oriau swyddfa.

“Mae’r tywydd gwael yn tanlinellu’r problemau y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’n rhaid ei bod yn gwneud synnwyr, er mwyn i staff allu gweithio’n agosach gydag unedau Damwain a Brys a meddygol teulu, eu bod yn cael eu rheoli gan bobol sydd o ddifri’n deall yr amodau lleol.”

Llun: Ambiwlans (o wefan yr Ymddiriedolaeth)