Mae swyddogion iechyd yn dweud bod 14 tunnell o wyau llygredig o Ewrop wedi cyrraedd gwledydd Prydain.
Fe ddywedodd yr Undeb Ewropeaidd bod yr wyau – sydd ar ffurf hylif – yn cael eu defnyddio mewn bwydydd megis crwst a mayonnaise.
Mae’r swyddogion yn mynnu mai isel yw’r risg i iechyd pobol o’r wyau sydd wedi dod o’r Almaen ble’r oedd bwyd gyda diocsinau gwenwynig ynddo wedi ei anfon i fwy na 1,000 o ffermydd ieir a moch.
“Fe gafodd yr wyau llygredig eu cymysgu gydag wyau eraill i greu hylif wyau wedi’i basteureiddio ac fe gafodd ei ddosbarthu i Brydain,” meddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
“Fe fydd cymysgu’r wyau wedi gwanhau’r lefel o ddiocsinau a dyw e ddim yn cael ei ystyried yn beryg i iechyd.”
Diocsinau
Fe ddywedodd llefarydd iechyd y Comisiwn Ewropeaidd, Fredric Vincent, eu bod nhw’n bwriadu trafod gyda’r awdurdodau yng ngwledydd Prydain i weld sut y cafodd y gymysgedd wyau ei defnyddio.
Mae diocsinau yn cael eu creu gan brosesau diwydiannol a llosgi gwastraff. Maen nhw wedi cael eu cysylltu gyda chanser ac effaith ar fenywod sy’n feichiog.
Llun llyrgell: Wyau (Eina Kraner CCA 3.0)