Fe fydd gweithiwr meithrin yn ymddangos o flaen y llys heddiw wedi’i gyhuddo o dreisio plentyn mewn meithrinfa yn y Midlands yn Lloegr.

Fe gafodd Paul Wilson ei arestio yn ei gartref yn Nechells, Birmingham, yn oriau mân dydd Mercher cyn cael ei gyhuddo gan yr heddlu neithiwr.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i achosion o gam-drin plant ym Meithrinfa Little Stars ar ôl meddiannu cyfrifiadur Paul Wilson. Roedd y cynorthwyydd wedi bod yn gweithio yn y feithrinfa ers 18 mis.

Mae Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngorllewin y Midlands, wedi egluro’r penderfyniad i ddwyn yr achos sy’n ymwneud â phlentyn rhwng dwy a thair oed.

‘Digon o dystiolaeth’

“Ar ôl archwilio’r dystiolaeth a gafwyd gan yr heddlu, r’yn ni wedi penderfynu bod yna ddigon o dystiolaeth a’i fod er lles y cyhoedd i gyhuddo Paul Wilson o dreisio,” meddai Jayne Salt.

Mae Paul Wilson wedi cael ei gyhuddo o dreisio plentyn rhwng 1 Ionawr 2009 a 30 Gorffennaf 2010 ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Birmingham.

Fe ddywedodd yr Uwch-arolygydd Matt Ward o Heddlu Gorllewin y Midlands nad oedd yna dystiolaeth bod unrhyw blentyn arall wedi cael ei dresio yn y feithrinfa sydd wedi cau dros dro.

Llun: Llys Ynadon Birmingham