Mae sgoriwr gorau Dinas Bangor wedi gadael y clwb i ymuno â York City yng Nghynghrair y Blue Square.

Fe gadarnhaodd y ddau glwb bod Jamie Reed wedi mynd i ogledd-ddwyrain Lloegr ond dydyn nhw ddim wedi datgelu beth oedd y pris.

Mae’r swm yn debyg o fod yn chwe ffigwr ac yn record i’r clwb o’r Gogledd, a hynny am chwaraewr sydd wedi sgorio 41 o goliau iddyn nhw mewn 52 o gemau. Roedd hynny’n cynnwys 17 mewn 18 gêm y tymor hwn.

Mae’r blaenwr 23 oed hefyd wedi chwarae i dîm lled-broffesiynol Cymru wrth iddo ysbrydoli Bangor i rediad diguro am bedwar mis cynta’r tymor hwn.

Bangor – ‘clwb da’

Ac yntau wedi ei eni a’i fagu yng Nghaer, roedd wedi dechrau ei yrfa gyda Wrecsam ac mae hefyd wedi chwarae i dîm yn Awstralia yn ystod yr haf.

Fe ddywedodd wrth wefan y clwb o Gaerefrog ei fod wedi mwynhau ei gyfnod gyda Bangor, gan gynnwys ennill medal am gipio Cwpan Cymru.

“Fues i yno am flwyddyn a hanner. Allen i ddim bod wedi gofyn mwy ganddyn nhw,” meddai. “Maen nhw’n glwb da.”

Mae Bangor yn dweud eu bod yn ffyddiog o allu cael chwaraewr arall i gymryd ei le.

Llun: Gwefan clwb Dinas Bangor yn cyhoeddi’r newydd