Mae undeb darlithwyr yn gobeithio y bydd un o brifysgolion Cymru yn newid meddwl tros fwriad i gau pedwar cwrs.

Mae Bwrdd Academaidd UWIC – Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd – yn cyfarfod heddiw i drafod cynigion a fyddai hefyd yn colli 35 o swyddi.

Ond fe ddywedodd prif drafodwr Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) eu bod yn “obeithiol” y byddai’r Bwrdd yn penderfynu bod y cynlluniau’n annoeth.

Mae pryder arbennig tros gwrs mewn Pensaernïaeth Fewnol ond, yn ôl y brifysgol ei hun, maen nhw’n ymateb i bwysau ariannol ac awydd y Llywodraeth i weld llai o gystadlu a dyblygu rhwng sefydliadau addysg uwch.

Ystyried gweithredu diwydiannol

Ar Radio Wales y bore yma, fe ddywedodd Russell Smith o UCU y byddai’r undeb yn ystyried gweithredu diwydiannol pe bai yna beryg o ddiswyddo gorfodol ac fe allai hynny gynnwys streicio.

Roedd yn derbyn bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth i UWIC wynebu toriadau ariannol o wythfed o’i gyllid ond nid dyma’r ateb, meddai.

Llun: Arwydd UWIC (o wefan yr Athrofa)