Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi condemnio’r ddeddf sy’n cael ei defnyddio i dorri cyllid S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

Maen nhw hefyd yn dweud na fydd dileu 250 o gwangos yn Lloegr yn arwain at gymaint o arbedion ariannol â’r disgwyl nac at fwy o atebolrwydd.

Roedd y Llywodraeth wedi “gwneud smonach” o’r broses, meddai’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n cynnwys ASau o bob ochr i Dŷ’r Cyffredin ac sydd dan gadeiryddiaeth y Ceidwadwr, Bernard Jenkin.

Maen nhw’n dweud nad oedd digon o ymgynghori wedi bod, bod y profion ar gyfer dileu cwangos yn “anobeithiol o aneglur” ac nad oedd Swyddfa’r Cabinet wedi creu trefn iawn.

‘Drafftio gwael’

Yn ogystal â’r cwangos yn Lloegr, y Mesur Diwygio Cyrff Cyhoeddus sydd am roi’r hawl i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, dorri arian S4C a newid ei threfn reoli.

Yn ôl y Pwyllgor, roedd y Mesur wedi ei ddrafftio’n wael a bod angen rhagor o amodau i atal gweinidogion rhag camddefnyddio’u grym yn y dyfodol.

Gwadu’r honiadau yr oedd Gweinidog y Cabinet, Francis Maude. Roedd y sefyllfa “mewn anhrefn”, meddai, cyn i Lywodraeth y Glymblaid ddod i rym ac roedd y broses yn un ddatganoledig.