Er bod y ffigurau swyddogol wedi gostwng ychydig, mae’r awdurdodau iechyd yng Nghymru’n awgrymu bod lefelau ffliw yn parhau i godi.
Fe gwympodd nifer yr ymweliadau â doctoriaid yn ystod wythnos y flwyddyn newydd ond dyw hynny ddim yn ystyried y galwadau y tu allan i oriau syrjeri tros gyfnod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Erbyn hyn, mae 12 o bobol wedi marw yng Nghymru am resymau sy’n gysylltiedig â ffliw – roedd ganddyn nhw hefyd gyflyrau iechyd eraill.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, bod swyddogion yn ceisio ail-ddosbarthu stociau o’r brechlyn ffliw er mwyn cyflenwi ardaloedd lle mae prinder.
Roedd y ffigwr ar gyfer achosion o ffliw i lawr i 89.2 ym mhob 100,000 o bobol yn ystod yr wythnos a ddiweddodd ar yr ail o Ionawr – i lawr o 92.1 yr wythnos gynt – ac mae 71 o bobol mewn gwelyau triniaeth frys.
Pobol rhwng 25 a 34 oed sy’n dangos y lefelau uchaf o ffliw.
‘Ffliw ar gynnydd yn y gymuned’
Ar hyn o bryd, meddai Edwina Hart, mae’r ffigurau o fewn yr hyn sy’n cael ei ddisgwyl yn y tymor ffliw ond mae’n aros am adroddiadau am y galw ar feddygon y tu allan i oriau arferol.
“Mae gwybodaeth gadw-llygad gan ddoctoriaid y tu allan i oriau ac NHS Direct yn ystod yr wythnos yn awgrymu bod ffliw yn y gymuned ar gynnydd.”
Llun: Edwina Hart