Stadiwm Swalec Caerdydd fydd yn cynnal cynhadledd wanwyn y Blaid Geidwadol yn 2011.

Dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd ddod i Gymru ac mae disgwyl iddo ddenu tua 3,000 o wleidyddion, lobïwyr a newyddiadurwyr i ganol y ddinas.

Bydd y gynhadledd yn cael ei gynnal ar 5 a 6 Mawrth, dyddiau’n unig ar ôl y refferendwm ar ragor o ddatganoli, a deufis cyn Etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru.

Bydd arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron, yn ogystal â sawl aelod o’r Cabinet, yn areithio yno.

“Rydym ni wedi dewis Stadiwm Swalec yn fan cyfarfod ar gyfer ein cynhadledd wanwyn oherwydd ei leoliad, cyfleusterau ac enw da,” meddai Stephen Phillips, Pennaeth Cynadleddau’r blaid.

“Mae Caerdydd yn ddinas wych ac mae ganddo enw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon a busnes o bwys.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at ddod a’r digwyddiad i Gymru am y tro cyntaf.”

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Brighton yn 2010.