Mae Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn gobeithio y bydd holl ddisgyblion yr ysgol yn gallu dychwelyd ddydd Mercher nesaf.
Mae’r disgyblion wedi bod ar wyliau Nadolig estynedig yn dilyn problemau’n ymwneud â’r tywydd oer, system ddŵr yr ysgol ac asbestos.
Daeth y problemau i’r amlwg yn ystod diwrnodiau olaf y gwyliau Nadolig.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol wrth Golwg360 heddiw eu bod nhw’n gobeithio atgyweirio’r system ddŵr a symud yr asbestos cyn bod y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf.
Mae’r Ysgol yn disgwyl i “arbenigwyr ddod i mewn yfory” i ddelio â’r broblem asbestos yn y gegin, meddai.
Disgyblion
Mae disgyblion blynyddoedd 12 a 13 yn yr ysgol heddiw yn adolygu ar gyfer arholiadau diwedd Ionawr. Yfory, fe fydd disgyblion blwyddyn 11 yn ymuno gyda nhw er mwyn gweithio tuag at eu harholiadau nhw.
Mae dros 1,100 o ddisgyblion yn yr ysgol i gyd – ac mae disgwyl i’r gweddill ddychwelyd ddydd Mercher, 12 Ionawr.
Yn y cyfamser, mae’r ysgol wedi gyrru llythyrau i rieni yn gofyn iddynt ddarparu bocs bwyd i’r disgyblion amser cinio.
Ond o ddydd Mercher ymlaen, maen nhw’n gobeithio darparu cinio cynnes, er na fydd yn wasanaeth llawn, meddai’r llefarydd.