Mae’n ymddangos bod brwydr yn digwydd o fewn Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain tros ddyfodol Gorchmynion Rheoli.

Tra bod adroddiadau’n awgrymu y bydd y mesurau gwrthderfysgaeth dadleuol yn cael eu dileu, dyw hi ddim yn glir a ddaw rhywbeth tebyg yn eu lle.

Mae canlyniadau arolwg diogelwch eisoes wedi eu gohirio – y gred yw bod dadlau’n digwydd rhwng y Swyddfa Gartref a’r Dirprwy Brif Weinidog, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Roedd ei blaid wedi addo dileu’r Gorchmynion yn eu maniffesto cyn yr etholiad ond mae rhai’n credu y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno mesurau tebyg o dan enw gwahanol.

‘Rhaid eu cadw’ meddai Carlile

Mae’r Arglwydd Cymreig, Alex Carlile, sydd ar fin rhoi’r gorau i’w swydd yn craffu ar fesurau gwrth-derfysgaeth y Llywodraeth, wedi dweud bod rhaid cadw’r Gorchmynion, ond fod angen diwygio rhywfaint arnyn nhw.

Mae wedi dweud na fyddai pobol gwledydd Prydain yn maddau pe bai Llywodraeth yn dileu’r Gorchmynion ac ymosodiad arall tebyg i un Gorffennaf 7 yn Llundain yn digwydd.

Mae ymgyrchwyr hawliau sifil yn feirniadol iawn o’r Gorchmynion sy’n cadw terfysgwyr honedig dan reolaeth lem, heb eu cyhuddo’n ffurfiol na rhoi gwybod iddyn nhw am y dystiolaeth yn eu herbyn.

Llun: Nick Clegg (CCA 2.0)