Yn ôl y disgwyl, mae Prif Weithredwr Dŵr Gogledd Iwerddon Laurence MacKenzie wedi ymddiswyddo yn dilyn cyfarfod gyda bwrdd y cwmni.

Fe fydd gweinidogion llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd yn cyfarfod heddiw i drefnu ymchwiliad i’r argyfwng a gododd yn y dalaith yn sgil y tywydd caled.

Roedd hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau heb ddŵr ar ôl i’r tywydd gaeafol achosi i bibellau rwygo dros gyfnod y Nadolig.

Ond fe fethodd Dŵr Gogledd Iwerddon ag ymdopi gyda’r sefyllfa ac maen nhw wedi cael eu cyhuddo o fethu â helpu a darparu gwybodaeth briodol i deuluoedd.

‘Cyfrifoldeb’

“Rwy’n credu’n gryf yn egwyddorion cyfrifoldeb ac atebolrwydd – am y rheswm hwnnw rwyf wedi penderfynu cymryd y cam yma,” meddai Laurence MacKenzie.

Mae Gweinidog Datblygu Rhanbarthol Cynulliad Gogledd Iwerddon, Conor Murphy, wedi dweud y bydd Bwrdd Archwilio’n adrodd yn ôl i’r llywodraeth erbyn diwedd mis Chwefror ond fe allai cynigion i ddiwygio gael eu gwneud yn gynharach na hynny.

Mae adran Conor Murphy sy’n gyfrifol am Dŵr Gogledd Iwerddon hefyd wedi derbyn beirniadaeth gan wleidyddion ac mae rhai wedi galw am ei ymddiswyddiad yntau.

Llun: Un o faniau’r cwmni (o wefan y cwmni)