Torri costau, torri corneli a gwendidau rheoli oedd y prif resymau tros drychineb olew Gwlff Mecsico, yn ôl adroddiad swyddogol.

Roedd cwmni BP a’r prif gontractwyr, Halliburton a Transocean, i gyd yn euog o benderfyniadau a oedd yn arbed arian ac amser ac yn cynyddu’r peryg, meddai Comisiwn Arlywyddol yn yr Unol Daleithiau.

Fe gafodd 11 o ddynion eu lladd ar lwyfan olewn Deepwater Horizon ym mis Ebrill y llynedd wrth iddyn nhw weithio ar ffynnon olew Macondo yn y môr ger Florida a Louisiana. Fe achosodd hynny’r trychineb olew mwya’ yn hanes y wlad.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y problemau’n rhai “systemig” yn hytrach nag yn ffrwyth camgymeriadau unigol ac mae hefyd yn feirniadol o drefn y Llywodraeth yn yr Unol Daleithiau i gadw llygad ar y diwydiant.

Methiant mewn rheolaeth

“Mae’n bosib olrhain yr holl gamgymeriadau a’r diffygion ym Macondo i un prif fethiant – methiant mewn rheolaeth,” meddai’r adroddiad. “Bron yn sicr, byddai gwell rheolaeth gan BP, Halliburton a Transocean wedi atal y ffrwydrad.”

Roedd yna sylw penodol i’r broses o osod sment i gau’r ffynnon – yn ôl yr adroddiad, roedd penderfyniadau wedi’u gwneud i dorri costau bryd hynny.

Mae Transocean, perchnogion y llwyfan, a Halliburton, y contractwyr, yn dweud eu bod nhw’n gweithio dan gyfarwyddyd BP ac mae’r cwmni olew’n dweud eu bod nhwthau wedi gweddnewid eu trefniadau diogelwch erbyn hyn.

Dim gwaharddiad yng ngwledydd Prydain

Yn y cyfamser, mae pwyllgor dethol yn y Senedd yn Llundain wedi gwrthod galwadau am wahardd cloddio am olew mewn dŵr dwfn ym moroedd gwledydd Prydain.

“Does dim angen gwaharddiad,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Ynni, Tim Yeo, gan ddadlau bod trefniadau diogelwch yn well yng ngwledydd Prydain.

Ond, yn ôl adroddiad y Pwyllgor, mae angen edrych ar y trefniadau i ddelio gyda thrychineb tebyg – fe fyddai’r gwaith yn llawer mwy anodd, medden nhw, mewn ardal fel Ynysoedd y Shetland lle mae’r môr a’r tywydd yn llawer mwy garw.

Llun: Y llwyfan yn llosgi (Gwylwyr y Glannau UDA)