Mae cwmni o Gymru’n helpu i achub un o adeiladau hyna’r byd yn yr Aifft.

Yn ôl stori ym mhapur yr Independent, cwmni o Gasnewydd sydd wedi cael y gwaith o sicrhau dyfodol y pyramid grisiau hynaf yn y wlad.

Mae Cintec yn defnyddio swigod awyr mawr y tu mewn i siambr y pyramid a gafodd ei ddifrodi gan ddaeargryn yn 1992.

Fe fyddan nhw wedyn yn gosod math o ‘sanau’ llawn growt mewn bylchau ym muriau’r pyramid sydd yn agos at 5,000 oed. Fel arall, mae peryg y gallai’r adeilad chwalu.

Nifer o brosiectau

Mae’r papur yn dyfynnu Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Peter James, yn dweud eu bod yn gweithio ar nifer o brosiectau yn yr Aifft.

Mae’r cytundeb wrth £1.8 miliwn ac maen nhw’n gobeithio y bydd llwyddiant yno’n arwain at ragor o waith.

Roedd y cwmni hefyd wedi gweithio ar adfer Castell Windsor ar ôl y tân mawr yno.