Mae’r pleidiau’n dadlau eto tros berfformiad gwasanaethau ambiwlans Cymru ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd un o’u prif dargedau o ychydig.
Mae yna broblem gyda chyllid a staffio, meddai’r Ceidwadwyr, tra bod y Llywodraeth yn pwysleisio bod targedau’n cael eu cyrraedd yn gyson.
Ond mae’r ffigurau diweddara’ ar gyfer mis Tachwedd 2010 hefyd yn dangos amrywiaeth mawr o ardal i ardal o ran ymateb i alwadau brys – roedd 29,000 o’r rheiny yn ystod y mis, cynnydd o 7% ar y flwyddyn gynt.
Methu’r targed
Trwy Gymru, y targed yw bod 65% o’r galwadau mwya’ tyngedfennol – lle mae bywyd mewn peryg – yn cael eu hateb o fewn 8 munud. Fe lwyddodd y gwasanaeth i gyrraedd sgôr o 64.7% ym mis Tachwedd.
Ond mewn rhai ardaloedd gwledig ac yn rhai o’r Cymoedd, fe fethodd y gwasanaeth y targed o fwy na 5 pwynt. Yn Rhondda Cynan Taf roedd y bwlch yn fwy na 12 pwynt.
Yn ardaloedd naw o’r 22 cyngor sir, roedd mwy na thraean y teithiau brys fwy na 15 munud yn hwyr. Sir Fynwy oedd waetha’, gyda sgôr o 47% o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 28%.
Y dadlau
Mae’r gwasanaeth ei hun wedi rhoi’r bai ar dywydd gwael ac yn pwysleisio bod y prif darged wedi’i gyrraedd weddill y flwyddyn. Roedd 90.9% o’r holl alwadau brys ym mis Tachwedd wedi cyrraedd eu targedau.
Ond, yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, mae angen i’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, weithio’n glosiach gyda phenaethiaid Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol.
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur-Plaid fynd i’r afael â phwysau cyllid a staffio mewn gaeaf sy’n prysur droi’n her i wasanaethau brys Cymru,” meddai Nick Ramsay.
Llun: Ambiwlans (o wefan y gwasanaeth)