Mae person arall wedi ei arestio heddiw ar ddrwgdybiaeth o ladrad yng ngorsaf betrol Morrisons yn Ninbych ddydd Mawrth, 28 Rhagfyr.
Dyn 22 oed o’r ardal yw’r pumed person i gael ei arestio mewn cysylltiad â’r lladrad. Cafodd ei arestio yn Ninbych y prynhawn yma ac mae yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Llanelwy.
“Hoffwn ni ddiolch unwaith eto i gymuned Dinbych am eu cymorth,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Steve Williams.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 0845 6071001.