Mae un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Prydain wedi galw am “drimio” y BBC, gan awgrymu fod y gorfforaeth wedi colli ei ffordd.

Dywedodd Syr David Attenborough bod y BBC yn “hynod bwysig” i gymdeithas Prydain ond bod y gorfforaeth wedi “crwydro oddi ar y llwybr cywir” ar sawl achlysur yn ddiweddar.

“Mae angen torri nôl ac mae angen ailfeddwl,” meddai wrth gylchgrawn New Statesman.

Ymunodd y cyflwynydd 82 oed gyda’r BBC yn 1952 dan hyfforddiant ac mae o wedi cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus am fyd natur.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod nhw’n “cytuno gyda Syr David bod angen i’r BBC fod yn fwy effeithlon ac rydym ni eisoes yn canolbwyntio ar wneud i bob ceiniog o’r drwydded teledu fynd ymhellach, a buddsoddi cymaint â phosib mewn cynnwys a gwasanaethau o safon”.